‘Berlin I’
Georg Heym (1887-1912)

cyfieithwyd gan Mary Burdett-Jones

Roedd llain y ffordd uchel y gorweddem arni yn wyn gan lwch.
Gwelem yn y culni bobl aneirif – yn llifeiriant ac yn dorf –
a’r brifddinas bell yn ymrithio gyda’r hwyr.
Gyrrai’r siarabangau llawn ac arnynt faneri papur
drwy’r tyrfaoedd, a’r bysys yn llawn –
y corff a’r llawr uchaf – ceir, mwg a chanu cyrn.
Hynny i gyfeiriad yr eigion o faen.
Ond i’r gorllewin gwelem y stryd hir fesul coeden
ac arnynt goron ffiligri ddiddail.
Hongiai pêl yr haul ar y gorwel.
Saethai’r nos ar ei chwrs belydrau cochion.
Gorweddai breuddwyd y golau ar bennau pawb.

© hawlfraint y cyfieithiad Mary Burdett-Jones 2023

Dyma’r gyntaf mewn cyfres o sonedau ar thema Berlin; fe’i hailrifwyd yn ‘Berlin II’, gw. Gunther Martens (gol.), Georg Heym Werke (Stuttgart, 2006), t. 378.